Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 21
Mawrth 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)
(60 munud)
4 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
(30 munud)
5 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cenhadaeth Ein Cenedl
(30 munud)
6 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladau
(30 munud)
7 Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023
(15 munud)
NDM8228 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Chwefror 2023.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
8 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) - GOHIRIWYD TAN 28 MAWRTH
(0 munud)
NDM8226 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Tachwedd 2022, a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Rhagfyr 2022, 6 Chwefror 2023, a 10 Mawrth 2023, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) (Saesneg yn unig)
Dogfennau
Ategol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
(Memorandwm, Memorandwm Rhif 2 a Memorandwm Rhif 3)
9 Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru 2021 – 2022
(30 munud)
NDM8224 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd yn nodi adroddiad blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar weithrediad Tribiwnlysoedd Cymru yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill 2021 a mis Rhagfyr 2022.
Pedwerydd Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru Ebrill 2021 – Rhagfyr 2022
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cefnogi galwadau am lawer mwy o annibyniaeth i Uned Tribiwnlysoedd Cymru, a chreu adran anweinidogol i weinyddu Tribiwnlysoedd Cymru.
10 Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2021-22
(60 munud)
NDM8227 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol 2021-22 gan Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Fawrhydi yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2023.
2. Yn nodi arddeliad yr adroddiad sef, er i nifer o'r materion a gododd yn ystod y pandemig ddechrau dangos arwyddion o welliant graddol, bod heriau yn parhau.
3. Yn croesawu casgliad yr adroddiad bod darparwyr addysg a hyfforddiant wedi ymateb yn dda i'r heriau, gan osod dysgwyr wrth galon eu gwaith.
4. Yn croesawu canfyddiadau’r adroddiad bod pob darparwr wedi canolbwyntio'n briodol ar les dysgwyr a staff, gyda'r darparwyr cryfaf yn parhau i hunanwerthuso yn agored ac yn onest a rhoi ffocws di-flino ar addysgu a dysgu.
Estyn Adroddiad Blynyddol | Annual Report – 2021-2022 (llyw.cymru)
11 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 22 Mawrth 2023